Mae’r FDA’n gweithredu ledled Cymru, gan gynrychioli gweision sifil ac uwch weithwyr proffesiynol sy’n gweithio i’r gweinyddiaethau datganoledig, cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru ac adrannau o lywodraeth y DU.
Mae’r canghennau a’r adrannau sy’n ffurfio FDA Cymru’n cael eu cefnogi gan Gareth Hills, sef Swyddog Cenedlaethol penodol FDA Cymru. Mae’n cynrychioli aelodau sy’n gweithio’n holl feysydd y cyfrifoldebau sydd wedi’u datganoli, gan gynnwys:
Llywodraeth Cymru (Welsh Government)
Y Senedd (The Welsh Parliament)
Estyn (HM Inspectorate of Education and Training in Wales)
Amgueddfa Cymru (National Museum of Wales)
Llyfrgell Genedlaethol Cymru (National Library of Wales)
Gareth Hills
Swyddog Cenedlaethol Cymru
National Officer for Wales
Gareth yw Swyddog Cenedlaethol Cymru, ac mae’n cynrychioli cyflogwyr datganoledig Cymru ac adrannau Llywodraeth y DU yng Nghymru.
Cafodd Gareth ei eni ym Mhen-y-bont ar Ogwr a’i fagu ym Mlaengarw, sef pentref glofaol ar dop Dyffryn Garw. Ar ôl mynychu ysgol uwchradd Ynysawdre, fe astudiodd Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Treuliodd Gareth 34 o flynyddoedd fel Gwas Sifil yn CThEM cyn gadael ym mis Chwefror 2020 i ddechrau fel Swyddog Cenedlaethol ar gyfer FDA Cymru. Mae ganddo dros 20 mlynedd o brofiad mewn amrywiaeth o uwch swyddi lleyg swyddogol - gan gynnwys arwain trafodaethau cyflog, bargeinio i newid telerau ac amodau, cynrychioli aelodau a rhoi cymorth personol iddynt.
Mae cynrychiolwr ar gyfer Cymru'n eistedd ar Bwyllgor Gwaith yr FDA er mwyn cynrychioli safbwyntiau aelodau Cymru.
Gall aelodau o FDA Cymru gysylltu â Gareth drwy anfon e-bost ato yn Gareth2@fda.org.uk
Dilynwch FDA Cymru ar Twitter @FDA_Wales